Cwrdd â WNO

Isaac Tovar

Astudiodd Isaac Tovar yn y Conservatorio Superior de Danza Maria de Ávila ym Madrid, ac mae ganddo ddegawdau o brofiad yn dysgu Fflamenco a dawns Sbaeneg ledled Ewrop, Canada a’r Unol Daleithiau. Drwy gydol ei yrfa, mae wedi dawnsio ym mhedwar ban byd, ac wedi gweithio ochr yn ochr â llu o fawrion Fflamenco. Mae’n gyn-ddawnsiwr unigol gyda’r Ballet Flamenco de Andalucía, Ballet Nacional de España, Compañía Andaluza de Danza, Compañía Antonio El Pipa, a Compañía Aída Gómez, ymysg nifer eraill o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Flamenco ên aRoute a Flamenco Vivo. Perfformiwyd ei gynhyrchiad unigol cyntaf, Añejo, yn Seville yn 2018, a pherfformiwyd ei ail gynhyrchiad, Generaciones, am y tro cyntaf yn y Theatr Frenhinol ym Madrid yn 2019.

Gwaith diweddar: Coreograffydd Carmen (Lincoln Center); dawnsiwr unigol yn Amor Brujo ac El Sombrero de Tres Picos de Falla (New World Symphony Orchestra, Miami); Seren Gŵyl Fflamenco (Amgueddfa Aga Khan, Toronto); a dawnsiwr unigol yn Ainadamar (Detroit Opera).