Cwrdd â WNO

Isabelle Peters

Astudiodd y Soprano Brydeinig, Isabelle Peters, yn y Guildhall School of Music & Drama a’r Royal Northern College of Music. Roedd Isabelle yn Gymrawd BAME yn English National Opera ar gyfer y tymor 2019/2020, gan ymddangos fel Y Forwyn Briodas Gyntaf yn The Marriage of Figaro a dirprwyo Frasquita yn Carmen a Yum-Yum yn The Mikado. Mae Isabelle yn aml yn cydweithio gyda phianyddion i berfformio repertoire Caneuon Celf ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau, yn fwyaf diweddar cyrhaeddodd rownd derfynol y 2020 ROSL Annual Music Competition.

Gwaith diweddar: Barbarina Le nozze di Figaro (Opera Holland Park); Dido Dido’s Ghost (Barbican/Dunedin Consort, Barbican Hall); Fiordiligi Cosí fan tutte, Pamina Die Zauberflöte (Waterperry Opera Festival); First Lady Die Zauberflöte (Garsington)

O mio babbino caro


Mae rhaglen Artist Cyswllt WNO wedi ei chefnogi gan Fwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, The Thriplow Charitable Trust, The Fidelio Charitable Trust, Garrick Charitable Trust