
Jake Wiltshire
Jake oedd y Dylunydd Goleuo ar gyfer cynhyrchiad Theatre of Sound o Bluebeard’s Castle a gafodd ei enwebu am Wobr Opera Sky Arts. Ymysg ei gydnabyddiaethau eraill am ddylunio goleuo y mae: Amadigi and Le comte Ory (Garsington Opera); Don Pasquale (WNO); La donna del lago, Viva la Diva a Gypsy (Gŵyl Opera Genedlaethol Buxton); The Cunning Little Vixen a La traviata (Longborough Festival Opera); Margot la Rouge, Le Villi a Pirates of Penzance (Opera Holland Park); The Magic Flute a The Marriage of Figaro (Turku Opera). Fel Dylunydd Goleuo Cyswllt, Jake oedd yn gyfrifol am oleuo'r perfformiad cyntaf yn UDA o Kommilitonen! gan Peter Maxwell Davis a Syr David Pountney yng Nghanolfan Lincoln, Efrog Newydd. Mae wedi gweithio i bron bob un o brif golegau cerddoriaeth y DU. Mae hyn yn cynnwys sawl cynhyrchiad ar gyfer The Guildhall School of Music & Drama a The Royal College of Music a mwy na 25 cynhyrchiad ar gyfer Royal Academy Opera.