Cwrdd â WNO

Jamal Zulfiqar

Ganwyd Jamal Zulfiqar yn Lahore, Pakistan ac fe symudodd i’r DU yn 5 mlwydd oed lle magwyd ef yn Watford, Sir Hertford. Fe hyfforddodd yn The Urdang Academy yng Nghanol Llundain ac ers graddio y mae wedi perfformio mewn theatr, ffilm a theledu. O dan yr enw Jamie Zed mae wedi rhyddhau ei gerddoriaeth ei hun, cymysgedd o RnB Prydeinig gydag ysbrydoliaeth o Dde Asia. 

Gwaith diweddar: Yaqub / US Yousef Tiger Bay (Canolfan Mileniwm Cymru); 30ain Penblwydd Starlight Express (The Other Palace Theatre); Padamadan / Nikos Legally Blonde (Leicester Curve); Tony Bend It Like Beckham (Phoenix Theatre / Sonia Friedman Productions)