Candide Bernstein
Archived: 2022/2023Trosolwg
Y Gorau o bob Byd Bosib
Mae Candide, gan Leonard Bernstein, yn antur wefreiddiol wyllt, lle mae bywyd yn Ffrainc yn ystod y ddeunawfed ganrif yn gwrthdaro â bywyd yn America yn yr ugeinfed ganrif, ar ôl y rhyfel. Cymerwch sedd, a pharatowch eich meddwl am daith droellog wrth i ni ruthro drwy fyd rhyfeddol yn llawn anhrefn - o gestyll yn yr Alpau i nendyrau Montevideo, o ddaeargrynfeydd yn Lisbon i'r jwngl Amasonaidd y tu hwnt i'r Wladfa. Wrth wylio cymdeithas wedi'i hollti gan anghydraddoldeb a theuluoedd yn cael eu dadleoli gan ryfel, mae'r stori'r un mor berthnasol heddiw a phan gafodd ei hysgrifennu’n gyntaf yn 1759.
Oherwydd y gymysgfa o ddawn gyfansoddol Bernstein a ffraethineb cignoeth Dorothy Parker, mae Candide yn waith nwyfus sy'n dwyn ynghyd goreuon Broadway, eisin ar gacen opereta a dychan diamser nofel wreiddiol Voltaire. Mae cynhyrchiad newydd WNO yn croesawu tîm penigamp, a enillodd wobr National French Critics yn 2022 am eu cynhyrchiad o The Snow Queen. Mae hefyd yn rhoi bywyd i'r byd dychmygol ac ecsentrig hwn gyda cherddoriaeth ddiweddar, animeiddiadau, dawns a brathiad gwleidyddol.
The Times
The Stage
Archwiliwch du ôl i'r llenni
Archebu rhaglen
Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg
Yn cynnwys themâu ac iaith a all beri gofid i rai pobl. Mwy o wybodaeth (dolen yn cynnwys gwybodaeth a all ddifetha plot yr opera)
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Mewn cyfnod ansicr, ym mherfeddion gwlad Ewropeaidd ffuglennol, mewn castell godidog mae teulu o aristocratiaid gydag enw na ellir ei ynganu, yn byw. Mae gan y Barwn a'r Farwnes ddau o blant, Maximillian a Cunégonde – y ddau’n hardd, yn goegfalch ac yn hapus tu hwnt. Yn byw gyda nhw, mae mab llwyn a pherth y Barwn, sef Candide, a'r forwyn Paquette. Caiff y bobl ifanc hyn eu haddysgu gan Dr Pangloss ddoeth sy'n arddel athroniaeth benodol: mai dyma'r gorau o bob byd lle mae gan bob elfen swyddogaeth benodol. Felly yn union fel mae planhigion sy’n blodeuo neu fachlud haul yn rhan o gynllun mawreddog, gellir ystyried bod dioddefaint plant neu bandemig yn hanfodol i naws cyffredinol byd-eang. Mae'r bobl ifanc a Dr Pangloss yn ymhyfrydu yn yr heddwch a'r harmoni a ddaw yn sgil eu hathroniaeth ac, er bod y Barwn yn canfod amser i fynnu ffafrau rheolaidd gan Paquette, sydd ei hun yn cael ei cham-drin gan Pangloss, mae Cunégonde a Candide wedi penderfynu syrthio mewn cariad. Pan fydd y ddau'n cynnal arbrawf gwyddonol eu hunain i'r hyn sy'n digwydd pan fydd rhai rhannau o'r corff yn cael eu rhoi mewn cysylltiad agos â'i gilydd mae’r garwriaeth yn cael ei darganfod. Mae’r Barwn - yn gandryll bod ei ferch yn potsian gyda bastard, heb sôn am y ffaith eu bod yn hanner brawd a chwaer - yn diarddel Candide. Mae eu byd taclus o gyfoeth, uchelgais a cham-drin wedi ei chwalu.
Oddi yno mae hanes picarésg aruthrol o gymhlethdod yn datblygu ac, ar bob cam, caiff cred y bobl ifanc bod popeth yn digwydd er y gorau ei herio’n greulon: mae rhyfel yn torri yn Ewrop a chaiff y castell ei ddinistrio: caiff y Barwn a'r Farwnes eu llofruddio: mae'r teulu'n chwalu ac mae Candide clywed bod Cunégonde wedi marw. Â’i fyd yn deilchion, daw o hyd i Pangloss, sy’n dioddef o glefydau arteithiol, a gyda'i gilydd, maen nhw’n cychwyn am Lisbon. Mae eu llong yn suddo, maen nhw’n wynebu daeargryn ac yna llosgfynydd, ac yn dystion i Auto Da Fe dan oruchwyliaeth y Chwil-lys – caiff Candide ei chwipio a chaiff Pangloss ei grogi. O, am ddiwrnod!
Yn y cyfamser, nid yw Cunégonde wedi marw wedi’r cyfan, yn hytrach mae ym Mharis. Yno, o dan arweiniad Hen Wraig a chanddi un boch tin, caiff ei gorfodi i weithio fel putain o safon uchel yn gyfnewid am fywyd o emau disglair. Mae Candide, ar hap, yn cyrraedd Paris ac yn rhyddhau ei gariad o'i bywyd truenus drwy ladd ei dau geidwad. Ynghyd â'r siaperon, maent yn ffoi ar gefn ceffyl, gan anelu am Cadiz a llwybr allan o Ewrop. Mae anturiaethau'n eu dilyn ar hyd y ffordd ac ar ddiwedd Act Un, maent ar fwrdd llong i Montevideo, prifddinas Uruguay, gyda chomisiwn i Candide ymuno â grŵp o Jeswitiaid milwriaethus yn y jyngl. Mae dyfodol addawol yn aros amdanynt ar draws yr Iwerydd yn y Byd Newydd, y byd gorau posibl.
EGWYL
Yn yr ail ran aiff pethau o ddrwg i waeth, a hynny’n gyflym. Mae Llywodraethwr Montevideo yn rheibiwr rhywiol sydd â’i lygad ar newydd-ddyfodiad. Er mawr syndod iddo ef, ac i ni, y fenyw y mae wedi'i harwain i’w benty yw Maximilian, brawd Cunégonde. Wedi’i siomi gyda’i ddarganfyddiad, mae'r Llywodraethwr yn bwrw Maximilian o'r neilltu a’i roi i un o Frodyr y mynachdy sydd, ar y pryd, yn chwilio am recriwtiaid newydd i'w urdd Jeswit. Yn y cyfamser, mae'r llong wedi cyrraedd gyda siaperon yr Hen Fenyw, Cunégonde a Candide. Gan synhwyro cyfleoedd newydd, mae’r Llywodraethwr yn anfon Candide i'r jyngl cyn gynted â phosibl ac yn troi ei sylw at Cunégonde. Mae'r ddwy fenyw wedi’u dal.
Yn y jyngl, mae Candide yn cyrraedd gwersyll byddin y Jeswitiaid lle y caiff ei gyfarch yn wresog gan Paquette (y mae amgylchiadau ffortunus hefyd wedi’i harwain at y grŵp arbennig hwn o fynachod yn y jyngl hon) a hefyd Maximilian. Fodd bynnag, mae digwyddiadau anffodus yn peri i Candide ladd Maximilian a chaiff ef a Paquette eu gorfodi, unwaith eto, i ffoi - y tro hwn i fforest law anwaraidd. Mae digwyddiadau mwy anghredadwy’n dilyn wrth iddynt ddarganfod teyrnas Eldorado, casglu ychydig o ddefaid gwerthfawr, teithio tua Surinam ac yna gael eu twyllo gan Iseldirwr cyn cyrraedd Constantinople. Ar yr un pryd, mae Cunégonde a'r Hen Fenyw eu hunain yn Constantinople yn goroesi fel gweithwyr rhyw ym mhalas pleser y Tywysog Ragostki llwgr. Wrth i’r gwahanol gariadon, brodyr a chwiorydd a ffrindiau gael eu haduno, mae hyd yn oed Dr Pangloss yn cael ei ailddarganfod yn gweithio yn y clwb. Mewn naid athronyddol olaf, fe'u gwahoddir i ddatgysylltu eu hunain o obeithion am ganlyniad cadarnhaol ac yn hytrach werthfawrogi'r bywyd syml o weithio ar y tir a sylweddoli bod y gorau o bob peth o’n mewn ac o'n cwmpas mewn gwirionedd. Y cyfan y mae’n rhaid i ni ei wneud yw aros yn llonydd yn ddigon hir i wrando.