Trosolwg
Cyfarwyddwr o Loegr yw James Bonas sy’n cyfuno dychymyg a deallusrwydd â chwilfrydedd dros dechnoleg a ffurfiau newydd, i adrodd straeon modern mewn theatr, opera a dawns glasurol neu gyfoes. Mae operâu diweddar yn cynnwys Flight o waith Jonathon Dove ar gyfer RCS a’r perfformiad cyntaf o Snow Queen o waith Abrahamsen (Opéra national du Rhin), yn cynnwys fideo ac animeiddiadau gan Grégoire Pont. Mae cydweithrediadau eraill gyda Pont yn cynnwys Der Mond o waith Orff, L’enfant et les sortilèges o waith Ravel a L’heure espagnole (Opéra de Lyon). Yn ystod Gwanwyn 2023 bydd James yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr Almaen yn cyfarwyddo Ariadne auf Naxos yn Theater Magdeburg. Mae hefyd yn weithgar ym myd dawns rhyngwladol: mae prosiectau’n cynnwys y cyd-gynhyrchiad gyda Helen Pickett o’r bale naratif The Crucible (Scottish Ballet), sydd wedi ennill gwobrau, a’r ffilm fer enwog Dive gyda Sophie Laplane. Mae prosiectau’r dyfodol yn cynnwys creadigaethau ar gyfer Canadian National Ballet, Scottish Ballet a Dutch National Ballet.