
Jana Kurucová
Cafodd y mezzo-soprano Jana Kurucová ei geni yn Slofacia ac astudiodd yn y Conservatory yn Banska Bystric ac ym Mhrifysgol Gerdd yn Graz, Awstria, lle canodd am y tro cyntaf yn The Magic Flute (Zweite Dame) a La finta giardiniera (Ramiro); yna fe ymunodd â Rhaglen Artistiaid Ifanc y Bayerische Staatsoper yn Munich, sef Ensemble Theater Heidelberg fel y’i gelwid yn ddiweddarach, lle cafodd y cyfle i gymryd y prif rolau Sesto yn La Clemenza de Tito, Idamante Idomeneo a Rosina yn Il Barbiere di Siviglia am y tro cyntaf.
Yn 2009 ymunodd ag Ensemble y Deutsche Oper Berlin lle cafodd y cyfle i ddatblygu ei rolau canu arweiniol ar draws y prif repertoie operatig gan Mozart, Debussy, Janáček, Verdi a Donizetti. Mae hi fwyaf enwog mae’n debyg am ei rhan fel Elvira yn Don Giovanni, a berfformiwyd ganddi mewn amryw o ymddangosiadau gwadd yn Prag, Bratislava, Stuttgart a Graz.
Bu hefyd yn westai yn eatro La Maestranza yn Sevilla, Theatr Genedlaethol Tokyo, Badisches Staatstheater Karlsruhe, yn y Klangfestival Dortmund, y Semperoper Dresden, y Bayerische Staatsoper Munich, y Festspielhaus Baden-Baden, y Musikfest ac yn fwyaf diweddar am y tro cyntaf yn yr Opera yn Zurich.
Ar y gweill mae ei pherfformiadau yn Theater an der Wien yn Fienna, y Concertgebouw yn Amsterdam, Deutsche Oper Berlin ac Opéra Liège.