
Cwrdd â WNO
Jasdeep Singh
Gan chwalu ffiniau diwylliannol gyda’i gelfyddyd ryfeddol a’i ddull newydd o gyfansoddi, mae’r sitarist penigamp, Jasdeep Singh Degun, yn dod ag egni a gweledigaeth i gerddoriaeth Indiaidd a chyfoes. Gan ddysgu o dan arweiniad gofalus Ustad Dharambir MBE, mae Jasdeep wedi perfformio mewn nifer o gynyrchiadau mewn lleoliadau uchel eu proffil yn rhyngwladol. Y mae wedi ysgrifennu, trefnu, a chynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer ystod amrywiol o brosiectau a thraciau sain, gan gynnwys ar gyfer cerddorfeydd, ensemblau clasurol cyfoes, a chynyrchiadau cerddoriaeth uchel eu proffil. Yn ddiweddar arwyddodd Jasdeep i Real World Records a rhyddhau ei albwm gyntaf Anomaly yng Ngwanwyn 2022.