
Jenni Duffy
Jenni Duffy
Gwarchodwr
Cafodd Jenni ei geni yng Nglasgow ac astudiodd yn Motherwell College a graddio gyda BA (Hons) mewn Actio. Ers hynny mae Jenni wedi cael gyrfa amrywiol mewn teledu, ffilm a pherfformiadau byw. Mae hi wedi ymddangos yn River City gan BBC Scotland a’r ffilmiau Not Another Happy Ending a Schemers.
Ers symud i Gaerdydd, mae Jenni wedi gweithio gyda Birmingham Royal Ballet a chwarae’r cariad cystadleuol yn y fideo cerddoriaeth Hanging On gan yr artist RVBY. Mae hi hefyd wedi gwneud ymgyrchoedd ffotograffiaeth gyda chleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Chastell Llantrisant.
Gwaith diweddar:Sleeping Beauty (Birmingham Royal Ballet), hysbyseb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ymgyrch ffotograffiaeth Cymru’n Gweithio