
Cwrdd â WNO
Jessica Nuccio
Ganed Jessica Nuccio yn Palermo. Mae hi wedi ennill nifer o gystadlaethau a gwobrau opera rhyngwladol megis Voci del Mediterraneo yn Siracusa a hi oedd enillydd cyntaf Cystadleuaeth Canu Ryngwladol Marcello Giordani. Ymddangosodd Nuccio yn y Teatro La Fenice am y tro cyntaf yn 2011 pan chwaraeodd ran Violetta La Traviata a chafodd lawer o ganmoliaeth.
Gwaith diweddar: Violetta La Traviata (Teatro del Maggio Musicale Fiorentino); Gilda Rigoletto (Opéra de Marseille); Musetta La bohème (Teatro Massimo)