Cwrdd â WNO

Jessica Robinson

Graddiodd y soprano o Gymru, Jessica Robinson, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda Rhagoriaeth mewn MA Perfformio Opera, ar ôl ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn flaenorol. Yn ystod ei hastudiaethau, derbyniodd sawl gwobr gan gynnwys Gwobr Goffa Aneurin Davies, Gwobr Mansel Thomas, Gwobr Margaret Tann a Gwobr Soprano Elias. Hefyd enillodd y teitl Ysgolhaig Tywysog Cymru ac yn 2023 cynrychiolodd Gymru yng nghystadleuaeth fawreddog Canwr y Byd Caerdydd; enillodd ei rownd, gan sicrhau lle iddi’i hun yn y Rownd Derfynol, rhywbeth nad oedd neb o Gymru wedi llwyddo’i wneud ers 27 o flynyddoedd a’r tro cyntaf erioed i fenyw o Gymru.

Fel unawdydd oratorios a chyngherddau, mae Jessica yn perfformio’n helaeth ledled y DU, ynghyd ag ymddangosiadau rhyngwladol yn Efrog Newydd, Tsieina, y Swistir a’r Eidal. Bydd yr uchafbwyntiau'n cynnwys: Serenade to Music Vaughan Williams (gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham ar gyfer BBC Radio 3), perfformio fel unawdydd yng Ngala 1000 o Leisiau Corau Meibion (Neuadd Frenhinol Albert), Messiah Handel (Canolfan Mileniwm Cymru) a pherfformio i EUB Tywysog Cymru (Palas Buckingham).

Mae rolau operatig yn cynnwys: Iarlles Almaviva The Marriage of Figaro, y Foneddiges Billows Albert Herring, Llwynog The Cunning Little Vixen, Ysbryd Dido and Aeneas, a rolau gydag WNO, Opera Grange Park ac Opera Longborough.