
Jiří Habart
Mae Jiří Habart wedi ennill un o wobrau Cystadleuaeth Arwain Cenedlaethol Zoltán Kodály yn Debrecen (2023), ac wedi derbyn gwobrau arbennig gan Opera Wladol Hwngari, Cerddorfa Dohnányi Budafok Budapest, a Cherddorfa Ffilharmonig Kodály Debrecen. Yn yr un flwyddyn, cyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Arwain Donatella Flick gyda Cherddorfa Symffoni Llundain.
Wedi’i hyfforddi fel feiolinydd yn wreiddiol ers yr oedd yn 12 oed, astudiodd Jiří yn yr Ysgol Gynradd Gelfyddydol yn Litomyšl ac Ysgol Gerddoriaeth P J Vejvanovský yn Kroměříž. Yn ddiweddarach, trodd ei sylw at ddysgu i arwain cerddorfa yn Academi Celfyddydau Perfformio Janáček yn Brno dan arweiniad Jakub Klecker a Tomáš Hanus (Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO), ac arwain corawl gyda Blanka Juhaňáková. Elwodd hefyd o ddosbarthiadau meistr gyda Tomáš Netopil, Kirk Trevor, Zsolt Nagy, a Mark Stringer. Yn ogystal, astudiodd feiolín baróc gyda’r arbenigwr perfformio hanesyddol enwog, Lenka Torgersen, arweinydd Collegium Marianum. Enillodd ysgoloriaeth y Bayreuther Festspiele yn 2014.
Mae Jiří wedi cydweithio â cherddorfeydd blaenllaw ar hyd a lled Ewrop, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Llundain, NDR Elbphilharmonie Orchester (Hambwrg), Sinfonia Varsovia, Cerddorfa Ffilharmonig Kodály Debrecen, Cerddorfa Ffilharmonig Brno, Cerddorfa Ffilharmonig Janáček Ostrava, Cerddorfa Ffilharmonig Marofaidd Olomouc a Cherddorfa Ffilharmonig Bohuslav Martinů (Zlín). Fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Janáček Brno yn 2018, arweiniodd berfformiadau o ddwy opera gyfoes: Falstaff ac Unknown.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi arwain yn y Theatr Morafaidd-Silesaidd Genedlaethol yn Ostrava, lle mae ei repertoire yn cynnwys opera a ballet. Ymysg ei gynyrchiadau y mae La traviata, Rusalka, Dalibor, The Bartered Bride, Manon, La scuola de’ gelosi, The Barber of Seville, Così fan tutte, Dido and Aeneas, Il ballo delle ingrate, The Nutcracker, Le Corsaire a Dangerous Liaisons.