Cwrdd â WNO
Jodi Ann Nicholson
Mae Jodi yn artist hil gymysg Brydeinig/Affricanaidd-Caribïaidd wedi'i lleoli yn ne Cymru. Gan hyfforddi mewn dawns gyfoes yn Trinity Laban ac archwilio Celf Gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, mae ei gwaith yn cynnwys sawl disgyblaeth. Mae gwaith Jodi’n archwilio arlliwiau hunaniaeth drwy waith hunangofiannol hyd at brosiectau cymunedol – gan archwilio sut i ddweud y straeon cymhleth sy’n ffurfio pwy ydym ni. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys y ffilm ddawns/barddoniaeth The Branches of Me a phrosiect cymunedol Cwilt Cymunedol y Memo yn y Barri. Ar hyn o bryd mae Jodi’n datblygu unawd hunangofiannol Dear, Love From, sy’n adrodd stori am fabwysiadu a galar a chariad mam geni.