Cwrdd â WNO

John Caird

Awdur a chyfarwyddwr dramâu, sioeau cerdd ac operâu llawrydd yw John Caird. Mae'n Gyfarwyddwr Cyswllt Anrhydeddus ar gyfer y RSC lle mae wedi cyfarwyddo dros 20 o gynyrchiadau Shakespeare yn ogystal â dramâu clasurol a newydd, yn cynnwys Nicholas Nickleby a Les Misérables. Mae ei gynyrchiadau niferus ar gyfer y National Theatre yn cynnwys Hamlet, Humbleboy, Peter Pan a fersiwn newydd ei hun o Candide gan Bernstein. Hefyd, cyfarwyddodd ac ysgrifennu'r libreti ar gyfer opera André Previn, Brief Encounter a'r opera The Phoenix gan Tarik O’Regan. Perfformiwyd y ddwy opera am y tro cyntaf yn Houston Grand Opera. Cyhoeddwyd ei lyfr am gyfarwyddo dramâu a sioeau cerdd, Theatre Craft, gan Faber and Faber.

Gwaith diweddar: Knights’ Tale, Estella Scrooge a Spirited Away