John Ieuan Jones
Cwblhaodd John Ieuan Jones y bariton o Gymru ei astudiaethau yn y Royal Northern College of Music, gyda chefnogaeth hael Sefydliad Andrew Lloyd Webber, The Drapers’ Company a Gwobr Opera Sybil Tutton gan Help Musicians UK. Fel perfformiwr cyngherddau, bu Ieuan yn canu ar hyd a lled y DU, Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Mae ei uchafbwyntiau’n cynnwys perfformio fel unawdydd gwadd yn yr Ŵyl Corau Meibion (Royal Albert Hall); perfformio gyda Syr Bryn Terfel yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol (CMC); ac yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn Philadelphia. Perfformiodd Ieuan am y tro cyntaf gyda’r National Theatre y llynedd yn The Corn is Green a gyfarwyddwyd gan Dominic Cooke.
Gwaith diweddar: Boyar Sheloga/Bomley Ivan the Terrible (Grange Park Opera) a Guglielmo Così Fan Tutte (Opra Cymru).