
Jon Bausor
Astudiodd Jon Bausor yn Oxford University a’r Royal Academy of Music cyn ail-hyfforddi ar Gwrs Dylunio Motley Theatre a graddio yn rownd derfynol Gwobr Linbury yn 2000. Ers hynny, mae wedi dylunio’n helaeth ar gyfer cwmnïoedd opera, dawns a theatr, ledled y byd. Dyluniodd Jon seremoni agoriadol Gemau Paralympaidd Llundain yn 2012, ac yn ddiweddar cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Emmy ar gyfer ei waith Dylunio Cynhyrchiad ar gyfer ffilm parkour Redbull, Human Pinball. Fel artist cyswllt y Royal Shakespeare Company, mae Jon wedi dylunio sawl cynhyrchiad, gan gynnwys Hamlet, The Winter’s Tale a thymor cyfan Shipwrecked yn 2012. Operâu’n cynnwys: Cendrillon (Glyndebourne); The Knot Garden (Theater ên de Wien); Xerses, Rigoletto, AMidsummer Night’s Dream (Oper Halle); Agrippina (Grange Festival). Gwaith theatr yn cynnwys: Bat Out of Hell (West End, Broadway, Las Vegas); Into The Woods (Bath Theatre Royal); Spirited Away (Japan/ taith ryngwladol); The Grinning Man (West End).
Gwaith y dyfodol:King Lear (Kenneth Branagh/West End/Broadway); Conquest Requiem (Metropolitan Opera, New York).