
Jonathan Lemalu
Ganwyd y cantor Samoaidd Jonathan Lemalu yn Seland Newydd a graddiodd o’r Royal College of Music lle enillodd y Fedal Aur Tagore. Mae Jonathan wedi perfformio yn y Royal Opera House, Glyndebourne, ENO, Bayerische Staatsoper, Oper Frankfurt, Metropolitan Opera, Chicago Lyric a’r Gwyliau Salzburg a Chaeredin gydag arweinyddion yn cynnwys Davis, Dutoit, Gardner, Harnoncourt, Jurowski, Mehta, Nezet-Seguin, Pappano, Rattle a Summers. Yn 2022, enwyd Jonathan yn gymrawd anrhydeddus RCM, noddwr New Zealand Opera ac yn Swyddog Urdd Teilyngdod Seland Newydd yn Anrhydeddau Jiwbilî’r Frenhines am ei wasanaethau i’r byd opera.
Gwaith diweddar: Osmin Il Seraglio, Rocco Fidelio, Leporello Don Giovanni, Sarastro Die Zauberflöte, Nick Shadow The Rake’s Progress, Hunding Die Walküre, Bottom A Midsummer Night’s Dream, Collatinus The Rape of Lucretia, Colline La bohème, Dulcamara L’elisir d’Amore a Queequeg Moby Dick, ymhlith eraill.