
Joseph Alford
Mae’r cyfarwyddwr a’r cyfarwyddwr symudiadau, Joseph Alford, yn gyd-gyfarwyddwr artistig y cwmni Theatre O. Astudiodd yn yr École Internationale de Théâtre Jacques Lecoq ac mae ganddo radd BA mewn Drama a Saesneg o Brifysgol East Anglia. Fel cyfarwyddwr symudiadau, mae ei waith opera a theatr yn cynnwys cynyrchiadau fel Ariadne auf Naxos, Pelléas et Mélisande, Alcina (Gŵyl Aix-en-Provence), Miranda Purcell (Opéra Comique, Paris), Lucia di Lammermoor, Lessons in Love and Violence George Benjamin (The Royal Opera), Idomeneo (ENO), Hänsel und Gretel, Beauty and the Beast Lucy Kirkwood, The Cat in the Hat Theodor Geisel, A Woman Killed with Kindness Thomas Heywood (National Theatre), Girls & Boys Dennis Kelly (Royal Court), How the Whale Became Julian Philips, Clemency James MacMillan (ROH2), Hamlet (RSC), Dancing at Lughnasa Brian Friel (Theatr Clwyd). Mae wedi cyfarwyddo’n helaeth ac wedi gweithio fel cyfarwyddwr cyswllt a chyd-gyfarwyddwr a pherfformiwr mewn sawl cynhyrchiad.