Cwrdd â WNO

Joshua Lear

Hyfforddodd Joshua yn Bird College lle raddiodd yn 2021 gyda BA (Hons) mewn Dawnsio Proffesiynol a Theatr Gerdd. Mae ei gredydau theatr yn cynnwys TJ a chapten dawns Sister Act (English Theatre, Frankfurt); swing 9 to 5 The Musical (taith y DU); Big Fish (Bird College). Mae credydau gweithdy yn cynnwys capten dawns Clueless The Musical (Trafalgar Entertainment). Mae ei gredydau teledu yn cynnwys Children in Need (BBC); Britain’s Got Talent – The Champions (ITV); a Scenes in the Square launch – Gene Kelly (BBC).