Cwrdd â WNO
Joshua Robertson
Mae Joshua Robertson yn ymarferydd creadigol amlddisgyblaethol a hyfforddodd mewn theatr gerddorol yn Belcanto London Academy Theatre School. Ochr yn ochr â pherfformio, mae Joshua yn Artist Cyswllt Creadigol gyda Chwmni Theatr Flo, ac yn gyfarwyddwr hyfforddiant y rhaglen ddatblygu CODI: CYMRY CREADIGOL Yn fwy diweddar, mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cyswllt a Choreograffydd yn ystod y broses o ymchwilio a datblygu Landing Bolts. Yn ogystal â hynny, mae Joshua'n meddu ar radd Anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg o Brifysgol Caerdydd, ac yn Rhyddfreiniwr Dinas Llundain.