José Fardilha
Dechreuodd José Fardilha, y bariton o Bortiwgal, ei astudiaethau cerddorol gyda Cristina de Castron a pherfformiodd am y tro cyntaf yn 1984 fel Masetto yn Don Giovanni yn Teatro Nacional de São Carlos yn Lisbon, ei dref enedigol. Mae'n perfformio’n aml fel gwestai yng ngwyliau a thai opera gorau’r byd, gan gynnwys y Wiener Staatsoper, Barbian Centre, Opéra de Paris, Bayerische Staatsoper, Teatro alla Scala ym Milan, Teatro La Fenice yn Fenis, Gŵyl Martina Franca a New Israeli Opera yn Tel Aviv. Mae José wedi cydweithio ag arweinwyr enwocaf y byd, gan gynnwys Claudio Abbado, Paolo Carignani, Riccardo Chailly, Michel Corboz, Zubin Mehta a Riccardo Muti, ymysg nifer eraill.
Gwaith diweddar: Il barone di Trombonok Il viaggio a Reims (Theatr Moscow Bolshoi), Bartolo Il Barbiere di Siviglia (Teatro Regio Torino), Prif rôl Don Pasquale (Glyndebourne Festival Opera), Leporello mewn detholiadau o Don Giovanni (Lisbon Fundaçao Calouste Gulbenkian).