Cwrdd â WNO

Juliette Manon

Cyfarwyddwr ac artist amlddisgyblaethol o Ogledd Cymru yw Juliette. Yn ddiweddar fe wnaethant gwblhau eu preswyliad yn Theatr Clwyd fel derbynnydd Hyfforddeiaeth Carne ar gyfer Cyfarwyddwyr yng Nghymru (22-24), wedi hyfforddi’n flaenorol yn y Royal Northern College of Music a Phrifysgol Manceinion. Maent yn frwd dros roi llwyfan i leisiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac adrodd straeon gwirion ac anhygoel drwy lens haniaethol. Mae’r gwaith diweddar fel Cyfarwyddwr yn cynnwys: Nutcracker (The Alternative Cabaret) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Lydia Merch y Cwilt (Eisteddfod Genedlaethol Cymru), Dysgu Hedfan (S4C), Ble mae trenau’n mynd gyda’r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd (Y Cwmni), Ie Ie Ie (Theatr Cymru). Cyfarwyddwr Cyswllt/Staff: The Great Gatsby (Theatr Clwyd a The Guild of Misrule), Truth or Dare (Theatr Clwyd), The In-Between, (Theatr Clwyd a NYTW).