
Cwrdd â WNO
Jung Soo Yun
Trosolwg
Astudiodd y tenor o Dde Corea, Jung Soo Yun ym Mhrifysgol Yonsei yn Seoul, y Royal Conservatoire of Scotland‚ a’r International Academy of Voice gyda Dennis O’Neill CBE. Mae wedi chwarae prif rannau gyda nifer o gwmnïau yn Ewrop. Ymhlith ei lwyddiannau mewn cystadlaethau mae ennill Cystadleuaeth Ganu Ryngwladol Montserrat Caballé, Gwobr Richard Tauber a Gwobr Llais Rhyngwladol Stuart Burrows a Chystadleuaeth Opera Les Azuriales.
Gwaith diweddar: Henri Les vêpres siciliennes (WNO); Rinuccio Gianni Schicchi (Göteborg Opera); Alfredo La traviata (Danish National Opera); Il Duca di Mantua Rigoletto (Cork International Festival).