Cwrdd â WNO

Justin Brown

Wedi’i eni yn Lloegr, astudiodd Justin Brown ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn Tanglewood gyda Seiji Ozawa a Leonard Bernstein. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf hynod lwyddiannus yn arwain y perfformiad cyntaf llwyfan o Bernstein’s Mass ym Mhrydain. Yn cael ei ganmol yn rhyngwladol yn y repertoire symffonig ac operatig, Justin Brown yw Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Cyffredinol Badisches Staatstheater Karlsruhe, yr Almaen, a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth Llawryfog yr Alabama Symphony Orchestra yn yr Unol Daleithiau.

Gwaith diweddar: Arweinydd Götterdämmerung (Badische Staatskapelle); Elektra, The Cunning Little Vixen (Badische Staatstheater Karlsruhe); Lohengrin (Deutsche Oper Berlin)