
Trosolwg
Mae Justina Gringytė yn mezzo-soprano wobrwyedig o Lithwania sydd wedi astudio yn Academi Cerddoriaeth a Theatr Lithwania, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, National Opera Studio yn Llundain a Phrifysgol Vytautas Magnus yn Kaunas, Lithwania. Enillodd wobr Canwr Ifanc y Flwyddyn yn y Gwobrau Opera Rhyngwladol ac mae’n un o raddedigion Rhaglen Artistiaid ifanc Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol (ROH). Yno, perfformiodd yn Seremoni Agoriadol y Pwyllgor Olympaidd ar gyfer gemau Olympaidd Llundain 2012 ochr yn ochr â Renée Fleming, Bryn Terfel a Plácido Domingo.
Dyma rai o’i huchafbwyntiau operatig: Y brif ran Carmen (ENO, Scottish Opera, Teatro Nacional de São Carlos, Opera Genedlaethol Lithwania, Teatro Massimo Palermo, Opera a Theatr Ballet Novosibirsk); Maddalena Rigoletto (Opéra National de Paris; ROH, Covent Garden; Teatro Real, Madrid; ENO a Theatr Bolshoi, Moscow); Amneris Aida (Opera Israelaidd, Opera Genedlaethol Lithwania, Opera Genedlaethol Latfia); Preziosilla La forza del destino a Fenena Nabucco (WNO); Suzuki Madama Butterfly (Gran Teatre del Liceu); Hänsel Hänsel und Gretel (Opera Genedlaethol Korea, Opera Dinas Vilnius); a Romeo I Capuleti e i Montecchi (Opera Genedlaethol Lithwania).
Mae Justina wedi perfformio yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Ewrop gyda cherddorfeydd megis Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Royal Philharmonic, Cerddorfa Symffoni Radio Frankfurt, Cerddorfa Simón Bolívar, Cerddorfa Genedlaethol Gwlad y Basg a Cherddorfa Ffilharmonig Genedlaethol Lithwania. Mae hefyd wedi canu yn y BBC Proms gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham ac mewn sawl datganiad caneuon yn Neuadd Wigmore. Mae Justina wedi cydweithio ag arweinyddion blaenllaw, gan gynnwys Antonio Pappano, Gustavo Dudamel, Esa-Pekka Salonen, Tugan Sokhiev, Mirga Gražinytė-Tyla, Kazushi Ono, Robert Treviño, Carlo Rizzi, Xian Zhang ac Edward Gardner.
Ymhlith uchafbwyntiau tymor 2023/2024 yr oedd Aida (Opera Genedlaethol Lithwania), y perfformiad cyntaf ledled y byd o Enheduana, Les Nuits d’ete (Orchestra della Svizzera Italiana) a Shéhérezade.