Cwrdd â WNO

Karen Kamensek

Ganwyd Karen Kamensek yn Chicago, ac erbyn heddiw mae’n arweinydd opera a chyngerdd uchel ei chlod sy’n ymddangos yn aml yn nhai opera blaenllaw ym mhob cwr o’r byd. Mae’n arbenigwr yng ngherddoriaeth gyfoes ac mae’n gweithio’n aml gyda’r cyfansoddwr Americanaidd Philip Glass, gan arweinio perfformiadau byd cyntaf operâu Glass Les Enfants Terribles (Spolteo Festival USA) a Passages yn ei hymddangosiad gyntaf ym Mhroms y BBC mewn cydweithrediad gyda Anoushka Shankar. Yn ddiweddar, mae Kamensek wedi gwneud yr opera Akhnaten gan Glass yn rhan ganolog i’w repertoire, a chafodd ei hanrhydeddu gyda Gwobr Grammy am ei recordiad o’r gwaith gyda’r Metropolitan Opera yn 2019.

Gwaith diweddar: Arweinydd Wonderful Town (Norwegian National Opera), Akhnaten (English National Opera), Don Giovanni (Minnesota Opera), Rigoletto ac Akhnaten (Metropolitan Opera), Die Zauberflöte (Lyric Opera of Chicago), Alice (Opera National du Rhin), Così fan tutte (Arizona Opera).