Cwrdd â WNO

Kate Woolveridge

Yn enedigol o Gaerdydd, astudiodd Kate ym Mhrifysgol Sheffield a’r Royal Academy of Music, lle dyfarnwyd bwrsari NFMS Alfreda Hodgson iddi. Ers hynny mae wedi gweithio’n helaeth gydag WNO, yn ogystal â Glyndebourne Festival Opera, ENO, Wexford Festival Opera, Opera Dinas Abertawe a Music Theatre Wales. Fel datgeiniad ac artist oratorio, bu’n perfformio mewn sawl neuadd gyngerdd y DU yn cynnwys Wigmore Hall, Festival Hall a Purcell Rooms, yn ogystal â sawl eglwys gadeiriol.

Mae Kate yn animateur lleisiol enwog ac yn hyfforddwr corawl. Ynghyd â gyrfa brysur yn y DU, bu’n gweithio’n rhyngwladol yn yr UDA, Singapore, Dubai a Hong Kong. Yn 2011, cyd-sefydlodd y Forget-me-not Chorus, elusen ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, ac ochr yn ochr ag o, ac yn 2012 derbyniodd wobr Menyw Ysbrydoledig y Flwyddyn ITV am ei gwaith. Yn 2017, gwnaethpwyd Kate yn Aelod Cyswllt o’r Royal Academy of Music mewn cydnabyddiaeth am ei gwasanaeth i gerddoriaeth, ac yn 2024 fe’i gwnaethpwyd yn MBE.