Cwrdd â WNO

Katherine Macauley

Perfformiad opera proffesiynol cyntaf Katherine oedd y brif ran yn The Enchanted Pig (Gŵyl Ryngwladol Buxton).  Graddiodd o Brifysgol Manceinion gyda gradd anrhydedd dosbarth gyntaf, lle bu'n astudio gyda Catherine Mikic. Yn ystod ei blwyddyn olaf, dyfarnwyd y Wobr Procter-Gregg iddi am y perfformiad trydedd flwyddyn gorau. Llwyddodd hefyd i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth llais y DU y Clwb Rotari.  Mae Katherine wedi canu a pherfformio gyda nifer o ensemblau gan gynnwys Camereta Cymru Andew Wilson Dixon, Corws Hallé a Chôr Cadeirlan Manceinion.