
Kazuna Okada
Wedi’i geni yn Tokyo, astudiodd Kazuna Okada gyda Midori Minawa, Sarah Tynan and Gary Matthewman. Gan raddio i ddechrau gyda gradd israddedig o Brifysgol y Celfyddydau Tokyo, cwblhaodd raddau meistr yn Royal College of Music ac yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru. Mae’n enillydd 2019 Gwobr Ieuenctid Cystadleuaeth Cân Japaneaidd Sōgakudō. Mae ei rolau opera’n cynnwys Susanna The Marriage of Figaro, Despina Così fan tutte, Gretel a’r Sleeping Fairy Hänsel und Gretel. Bu’n perfformio hefyd yn Yuzuru (Theatr Nissay) o flaen Ymerawdwr Japan yn 2005. Ymunodd â phrosiect haf Berklee yn Boston yn 2017 a British Isles Music Festival yn Llundain. Ymddangosodd yn flynyddol yn y Roppongi Summer Concert yn Japan bob haf o 2012 i 2019. Mae Kazuna ar hyn o bryd yn astudio gyda Dennis O’Neill.