Cwrdd â WNO

Kelvin Lim

Ganwyd Kelvin Lim yn Llundain a hyfforddodd yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Mae’n Arweinydd ac yn Hyfforddwr Llais, sy’n cael ei adnabod yn arbennig am ei arbenigedd yn repertoire dramatig Wagner, ac mae wedi gweithio gyda sawl cwmni gan gynnwys RBO, ENO, Opera Holland Park, Grange Park Opera a’r English Touring Opera. Mae wedi cynorthwyo Steuart Bedford, Anthony Negus ac Odaline de la Martinez, ac wedi arwain sawl opera. Mae ganddo hefyd gysylltiad hirsefydlog gyda Longborough Festival Opera, yn gweithio ar bob un o gynyrchiadau Wagner y cwmni.

Cyfarwyddwr Cerdd Opera Scenes yn Trinity Laban yw Kelvin. Mae wedi arwain Opera Scenes yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, ac mae’n banelydd rheolaidd ar gyfer clyweliadau Corws ROH. Mae’n enillydd Bwrsariaeth Bayreuth, ac yn Gyfarwyddwr Cerdd i Mastersingers, sy’n cefnogi lleisiau ifanc dramatig.

Gwaith diweddar: Arweinydd Water (Theatr Arcola), Arweinydd Cynorthwyol Island of Dreams (Grange Park Opera), rhaglen ddwbl Opera Royale (Pegasus Opera) a Turandot (Instant Opera).