Cwrdd â WNO
Kelvin Thomas
Cafodd Kelvin Thomas ei eni yng Nghaerdydd ac mae wedi perfformio ar draws y byd. Mae ganddo gysylltiad arbennig gyda gwaith Peter Maxwell Davies ac mae wedi recordio Eight Songs for a Mad King, The Martyrdom of St Magnus a The Lighthouse. Fel canwr ifanc roedd yn aelod o Gorws WNO a rhoddodd wersi canu ym Mhrifysgol Caerdydd am nifer o flynyddoedd. Yn 2019 perfformiodd yn Miami gyda’r New World Symphony Ensemble ac yng Ngŵyl Jerwsalem gyda Psappha.