Wedi ei eni yn Llundain, mae Kerem Hasan yn un o arweinwyr ifanc mwyaf blaenllaw Prydain. Astudiodd y piano ac arwain yn y Conservatoire Brenhinol yn yr Alban ac ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Zurich gyda Johannes Schlaefli. Kerem oedd Prif Arweinydd y Tiroler Symphonieorchester Innsbruck o 2019 i 2023. Yn 2017, enillodd Kerem Wobr Arweinwyr Ifanc Salzburg a Nestlé, a chyrhaeddodd rownd derfynol y Donatella Flick LSO Conducting a bu’n Arweinydd Cyswllt WNO 2019. Mae uchafbwyntiau tymor 2024/2025 yn cynnwys gwaith gwadd gyda’r Danish National Symphony Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Dresdner Philharmonie, a Staatsorchester Stuttgart. Mae wedi derbyn gwahoddiad i arwain y Bournemouth Symphony Orchestra, Turku Philharmonic Orchestra, Kymi Sinfonietta, PHION Orkest, a’r Tonkünstler-Orchester a’r Orchestre symphonique de Québec yn y dyfodol.
Mae ei berfformiadau opera diweddar yn cynnwys: La Rondine (Opera North), Carmen a Così fan tutte (ENO), Die Zauberflöte (Glyndebourne).