Cwrdd â WNO

Kezia Bienek

Roedd Kezia, sy’n enedigol o Brydain ac o dras Mawrisiad a Lithwaniad, wedi symud i Lundain pan oedd yn 16 oed i astudio theatr gerdd yn y Brit School. Wedi’i denu at opera, aeth ymlaen i astudio yn y Guildhall School of Music & Drama, Ysgol Opera Ryngwladol Benjamin Britten y Royal College of Music, a’r Solti Te Kanawa Academia di Bel Canto. 

Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys y brif rôl yn Carmen a Beppe L’amico Fritz (Opera Holland Park), Suzuki Madam Butterfly ac 2il Fenyw The Magic Flute (WNO) a Silvia Orfeo (Opera North), yn ogystal â recordio Leontina L’esule di Roma ar gyfer Opera Rara, Dorothée Cendrillon (cyfarwyddwyd gan Fiona Shaw, Glyndebourne on Tour), Forester’s Wife (a dirprwy Llwynog) The Cunning Little Vixen (WNO) a La frugola Il tabarro a Gianetta Don Bucefalo (Wexford Festival Opera).