
Laura Attridge
Mae'r Awdur-Gyfarwyddwr Laura Attridge yn prysur ddod yn adnabyddus am gyfoeth ac eglurder ei straeon. Mae ei gwaith, trwy’r broses hyd at y cynnyrch terfynol, yn ceisio archwilio’r naratifau diwylliannol a chymdeithasol a gymerwn yn ganiataol, a chreu gofod ar gyfer trawsnewid.
Mae Laura wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau gyda llawer o brif sefydliadau opera a cherddoriaeth glasurol y DU, gan gynnwys y Tŷ Opera Brenhinol, Glyndebourne, Opera’r Alban, Opera North, Opera Deithiol Lloegr, Gŵyl Ryngwladol Buxton a Mahogany Opera. Mae hi’n fardd gyhoeddedig, ac mae ei chaneuon, ei gweithiau corawl a’i libretti wedi cael eu perfformio’n rhyngwladol.
Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr/Sgriptiwr, L’Olimpade (Vache Baroque); Cyfarwyddwr Adfywio, La Traviata (Glyndebourne); Cyfarwyddwr Cyswllt, Carmen (Glyndebourne); Cyfarwyddwr/Sgriptiwr, Opera Highlights (Opera'r Alban); Cyfarwyddwr/Libretydd Catriona and the Dragon (Gŵyl Lambermuir)