Cwrdd â WNO

Laura Helene Hansen

Daw Laura Hansen o Hinnerup, Denmarc, ac fe hyfforddodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Copenhagen, ac Academi Opera Frenhinol Denmarc lle’r oedd ei rolau’n cynnwys Cio-Cio-San, yr Iarlles Alamaviva, Manon Lescaut, Die Marschallin ac Elisabetta. Derbyniodd Ysgoloriaeth Edith Allers Mindelegat yn 2024 a hi oedd dan sylw’r gyfres deledu yn Nenmarc, The Next Diva, a ddilynodd ei thaith tuag at berfformiad opera. Bu iddi hefyd leisio cymeriad yn y gyfres deledu glodfawr, Agnes, ac fe dderbyniodd Wobr Dalent Léonie Sonnings yn 2025. Mae ei gwaith i’r dyfodol yn cynnwys: Donna Anna Don Giovanni (Opera Den Jyske).

Gwaith Diweddar: Tredje For højt, for vildt, og for meget! (Perfformiad Cyntaf y Byd yn Theatr Frenhinol, Copenhagen), Wesendonck Lieder gyda SymfUni Copenhagen, Senta Die Fliegende Hollander (Opera I Provinsen).