Wedi’i lleoli yn Glasgow, daw’r mezzo-soprano Lea Shaw o Colorado, USA, a bu’n astudio yn Ysgol Opera Alexander Gibson yng Nghonservatoire Brenhinol yr Alban. Enillodd y Gystadleuaeth Lleisiau Newydd yng Ngŵyl Northern Aldborough yn 2023. Roedd Lea yn Artist y Dyfodol, yna’n Artist Cyswllt, gyda Scottish Opera 2021-24 ac Artist Addysg Preswyl 2024-25, lle roedd ei rolau’n cynnwys Hermia (A Midsummer Night’s Dream), Zerlina (Don Giovanni), Paquette (Candide), Niña (Ainadamar), Suor Zelatrice (Suor Angelica), La Ciesca (Gianni Schicchi), Mercedes (Carmen), Rosina (The Barber of Seville), Flora (La traviata) a Komorna (The Makropulos Affair). Yn 2024, ymddangosodd Lea am y tro cyntaf gydag ENO fel y Monitoress (Suor Angelica). Artist Samling yw Lea, a hi sefydlodd The Small Magician, adnodd addysg leisiol cwbl gynhwysol, hygyrch ac ymwybodol o drawma.