
Cwrdd â WNO
Lee David Bowen
Cafodd Lee ei eni a’i fagu yn Abertawe, De Cymru. Fe hyfforddodd fel bariton yn wreiddiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fodd bynnag, wrth astudio fe symudodd i repertoire y tenor ac mae nawr yn canolbwyntio ar y rolau Charaktertenor. Mae rolau arferol Lee yn cynnwys: Herod Salome, Mime Das Rheingold a Siegfried, Dr Caius Falstaff ac Aegisth Elektra.
Mae ei waith diweddar yn cynnwys: Graf Albert Die Tote Stadt a Mime Das Rhinegold (Gŵyl Longborough), Guillot de Morfontaine Manon a Dr Caius Falstaff (English Touring Opera).
Chwaraeodd Lee rôl Capten James Nolan ym mherfformiad cyntaf Dr Atomic gan John Adams ym Mhrydain i ENO.



