Cwrdd â WNO

Leo Hussain

Astudiodd yr arweinydd Prydeinig Leo Hussain yn Cambridge University a'r Royal Academy of Music. Ar hyn o bryd ef yw Prif Arweinydd Gwadd yr Enescu Philharmonic Orchestra. Mae Leo wedi sefydlu ei hun fel dehonglydd blaenllaw yn ei genhedlaeth o Mozart, yr ail ysgol Fienna a champweithiau yr 20fed ganrif. Bu gynt yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yr Opéra de Rouen a Salzburg Landestheater, ac mae bellach yn arwain llawer o gerddorfeydd a thai opera gorau’r byd.