Cwrdd â WNO

Leonora Thomson

Ymunodd Leonora Thomson ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Rheolwr Gyfarwyddwr ym mis Rhagfyr 2015, hi sy’n arwain ochr fusnes y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys cynllunio strategol a gweithredol, materion adnoddau dynol, cyllid a chysylltiadau rhanddeiliaid ymysg pethau eraill – popeth sy'n eistedd tu ôl i'r broses gynhyrchu ac yn sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad i’r dyfodol. Cyn hyn roedd yn Gyfarwyddwr Cynulleidfaoedd a Datblygu yng nghanolfan y Barbican, canolfan aml-gelfyddydau fwyaf Ewrop, sy’n rhan o Gorfforaeth Dinas Llundain. Dechreuodd yn y Barbican yn 2008, ac roedd yn arwain ar berthynas y sefydliad gyda’i gynulleidfaoedd drwy farchnata a chyfathrebu, blaen tŷ a'r swyddfa docynnau, strategaeth ddigidol a datblygu; yn ddiweddarach fe ymgymerodd â’r broses cynllunio strategol ar gyfer y Ganolfan.   Ymunodd â’r Barbican o’r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan – yno, rhwng 2007 a 2008 roedd yn rheolwr Teulu Estynedig Heddlu Ealing - Swyddogion Cefnogi Cymunedol, Gwirfoddolwyr, Cwnstabliaid Arbennig a Chadetiaid. Ar ddechrau’r 1990au roedd hi’n gweithio ym maes hyrwyddo a’r wasg ryngwladol ar gyfer EMI Classics, cyn ymuno â’r BBC i redeg y wasg a chyhoeddusrwydd ar gyfer y Proms a Radio 3, ac yna mynd ymlaen i weithio fel Ymgynghorydd Cyfathrebu Strategol ar gyfer uwch reolwyr y BBC ar faterion corfforaethol.  

Rhwng 1998 a 2006 roedd yn gwasanaethu fel cynghorydd lleol i Fwrdeistref Ealing yn Llundain, gan ddarparu arweiniad gwleidyddol ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol plant, cyn dod yn Ddirprwy Arweinydd ac yna yn Arweinydd y Cyngor. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe gyflawnodd lawer o waith ymgynghori, mentora a hyfforddiant ar gyfer yr Asiantaeth Gwella a Datblygu, sydd bellach yn rhan o’r Gymdeithas Llywodraeth Leol.  

Mae wedi cael nifer o swyddi ar fyrddau amrywiol; o 2008 i 2014 roedd hi’n aelod bwrdd yng Nghymdeithas Cerddorfeydd Prydain ac mae hefyd wedi gwasanaethu ar fwrdd y Mercury Theatre, Colchester. Ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd yr Ymgyrch Genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau.  

Cafodd ei magu yng Ngogledd Swydd Efrog, ble cafodd ei hysbrydoli i garu opera gan ei rhieni oedd yn gerddorion ac athrawon. Astudiodd Athroniaeth ym Mhrifysgol Leeds.