Cwrdd â WNO
Liam Wallace
Hyfforddodd Liam, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn y Northern School of Contemporary Dance. Yno, buodd yn gweithio gyda choreograffwyr fel Odette Hughes, Douglas Thorpe ac Avatâra Ayuso cyn graddio gyda BPA(Anrh) mewn dawns gyfoes. Ers hynny, mae Liam wedi bod yn datblygu ei ymarfer addysgu dawns gyfoes, yn gweithio'n llawrydd gyda sawl cwmni i ddatblygu arddull addysgu sy'n hyrwyddo natur agored ac unigol symudiad. Yn goreograffig, mae Liam wedi gweithio ar lu o wahanol ffilmiau, fideos cerddoriaeth a gwaith dawns. Mae'n canolbwyntio ar greu gwaith sy'n aml yn cysylltu â chryfderau corfforol dawnswyr, a'u dealltwriaeth o'r corff.