Cwrdd â WNO

Llinos Owen

Sub-Principal Bassoon

Magwyd Llinos ym Mhwllheli, a dysgodd y piano gyda'i nain, cyn mynychu Chetham’s School of Music yn y chweched dosbarth, lle astudiodd y basŵn a'r contrabasŵn. Wedi astudiaethau pellach yn y University of Cambridge a'r Royal Academy of Music, mwynhaodd Llinos flwyddyn gyda'r Southbank Sinfonia, a dechreuodd weithio'n llawrydd gyda cherddorfeydd yn cynnwys y Royal Opera House, yr Hallé, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Treuliodd Llinos 8 mlynedd hapus fel is brif faswnydd gyda'r Birmingham Royal Ballet, cyn ymuno â WNO yn 2022.

Yn dilyn damwain car yn 2009, mae Llinos yn hyfforddi a chystadlu gyda thîm Ceufadu Paralympaidd Prydain Fawr. Mae hi hefyd yn gyflwynydd ar y rhaglen deledu Cynefin ar S4C.