Cwrdd â WNO
Llinos Haf Jones
Graddiodd Llinos yn ddiweddar o’r Royal Northern College of Music, ble’r oedd yn aelod gweithredol o’r côr siambr a chynyrchiadau opera. Yn ystod ei hastudiaethau, derbyniodd yr Ysgoloriaeth Gwilym GWalchmai Jones, y James Martin Oncken Song Prize a’r Manchester Welsh Society Prize. Wrth berfformio mewn Eisteddfodau, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Olwen Philips, Medal Goffa J Lloyd Williams, Ysgoloriaeth Pam Weaver a Gwobr Goffa yr Arglwyddes Ruth Herbert Lewis i Llinos.