Cwrdd â WNO

Lowri Probert

Yn ddiweddar, graddiodd y soprano Lowri Probert gyda gradd dosbarth cyntaf o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, lle bu’n astudio gyda Jane Irwin. Bu Lowri yn perfformio yn nifer o gynyrchiadau opera’r coleg, megis Hansel a Gretel gan Humperdink, Sour Angelica gan Puccini a Dialogues des Carmélites gan Poulenc. Drwy gydol ei hastudiaethau, bu’n perfformio’n rheolaidd fel unawdydd gyda Chymdeithas Gorawl Crucywel. Cymerodd ran hefyd mewn nifer o weithdai a chynyrchiadau gydag Opera Ieuenctid WNO, gan berfformio detholiadau o operâu megis Dido ac Aeneas, The Magic Flute a The Marriage of Figaro. Hefyd, bu Lowri yn Gerddor Ymweld ar gyfer y Seashell Trust ac mae hi wedi cwblhau ei chwrs TAR mewn Cerddoriaeth Uwchradd o Brifysgol Fetropolitan Manceinion. Bydd Lowri yn parhau gyda’i hastudiaethau yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, lle bydd yn astudio gyda Janice Chapman a Marie Vassiliou. Caiff ei hastudiaethau gefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Gerdd Starmer Jones ac Ymddiriedolaeth Hywel Davies i Gerddorion Ifanc.