Lucy Burns
Ganwyd Lucy yn Bermuda a hyfforddwyd yn Elmhurst Ballet School. Ymunodd â’r corps de balletThe Phantom of the Opera yn Fienna, gan weithio’n ddiweddarach gyda’r cynhyrchiad ar y daith DU ac Asiaidd yn Seoul. Teithiodd Lucy ledled Ewrop gyda Weiner Ballet Theatre, a dawnsiodd yn helaeth gydag English National Opera, Glyndebourne Festival Opera a Diva Opera, gan deithio ar hyd a lled y DU ac Ewrop. Bu Lucy yn dawnsio am sawl blwyddyn yn Johann Strauss Gala Raymond Gubbay, a goreograffwyd gan Christopher Hampson. Mae ei gwaith ffilm yn cynnwys y ffilm Pride and Prejudice ac ymgyrch Anglomania Vivienne Westwood. Un o uchafbwyntiau Lucy oedd dawnsio yn Seremoni Gloi y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 gyda Darcey Bussell.
Gwaith diweddar: Coreograffydd Cynorthwyol The Gondoliers (Scottish Opera), Unawdydd Dawns The Cunning Little Vixen (Opera North).