Cwrdd â WNO

Luis Chapa

Mae’r tenor o Fecsico, Luis Chapa, yn adnabyddus fel un o berfformwyr gorau ei genhedlaeth yn y repertoire dramatig. Yn ddiweddar, perfformiodd am y tro cyntaf i Metropolitan Opera fel Pinkerton yng nghynhyrchiad Anthony Minghella o Madama Butterfly

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys: Tosca (Opera North), Don José Carmen a Calaf Turandot (Opera Genedlaethol Slofacia, Seattle Opera), Canio Pagliacci (Opera Israel, Deutsche Oper am Rhein), y brif ran Andrea Chenier (Theatr Genedlaethol, Prag), a Radames Aida (Opera North, Teatro Wielki Poland a Theatr Genedlaethol Croatia).

Ymhlith ei uchafbwyntiau blaenorol y mae: Pinkerton Madame Butterfly (Portland Opera), y brif ran Tannhäuser (Tiroler Festspiele Erl, Badisches Staatstheater Karlsruhe a Teatro Amazonas Manaus, Brasil), Pollione Norma (Opera North), a Samson Samson et Dalila (Staatstheater Darmstadt). 

Mae ei uchafbwyntiau cyngherddol yn cynnwys: La Nuit de Mai gan Leoncavallo (Gŵyl Gerdd Gwanwyn Košice, Slofacia ac Opera Genedlaethol Slofacia), Symffoni Rhif 8 Mahler (Orquesta Sinfonica o Nuevo Leon), a Requiem Verdi (Cerddorfa Ffilharmonig Stuttgart). Mae Luis hefyd wedi canu mewn galâu Verdi gyda Cherddorfa Ffilharmonig Lerpwl a Cherddorfa Ffilharmonig Pamplona, ac ar gyfer rhaglen Puccini gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC. 

Mae Luis wedi gweithio gyda nifer fawr o arweinwyr a chyfarwyddwyr nodedig, gan gynnwys Marco Armilliato, Donato Renzetti, Asher Fish, Gustav Kuhn, Oliver von Dohnányi, Sir Richard Armstrong, Alexander Joel, John Copley, Christopher Alden, Calixto Bieito, Mariusz Trelinski a David McVicar.