
Madeleine Boyd
Trosolwg
Astudiodd Madeleine Gynllunio Theatr yng Ngholeg Celf a Dylunio Central Saint Martin.
Mae ei chynlluniau cynhyrchu diweddar yn cynnwys: Le convenienze ed inconvenienze Teatrali (Wexford Festival Opera); G (Royal Court Theatre, Llundain); My Fair Lady (cyd-gynhyrchu: Leeds Playhouse ac Opera North); Gone Too Far (Theatre Royal Stratford East); Lady in the Dark (2022) ac A Quiet Place (2018) (Opera Zuid, Maastricht) (enillodd y ddau gynhyrchiad y Wobr Place de L’Opera am yr Opera Orau yn eu blynyddoedd perthnasol); Lalla Roukh (Wexford Festival Opera) (enillydd Gwisg Orau yng Ngwobrau Theatr The Irish Times); Powder Her Face (Royal Danish Opera) (enillydd y Wobr Årets Reumert am y Cynhyrchiad Opera Gorau); Albert Herring a L’Histoire du Soldat (Maggio Musicale, Florence); a The Donizetti Trilogy: Anna Bolena, Maria Stuarda a Roberto Devereux (WNO).
Mae prosiectau’r dyfodol yn cynnwys cynlluniau cynhyrchu ar gyfer Le Nozze di Figaro (Opera North) a The Little Prince (Theater an der Wien).




