Cwrdd â WNO

Madeleine Brooks

Hyfforddodd Madeleine Brooks fel cyfarwyddwr ar gwrs MA Cyfarwyddo Opera Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan raddio gyda rhagoriaeth. Mae ganddi radd dosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Manceinion, lle dechreuodd gyfarwyddo gyda Godspell a Dido and Aeneas. 
Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr Cynorthwyol The Cunning Little Vixen (Longborough Festival Opera); Gwyliwr/Cynorthwy-ydd The Valkyrie (English National Opera); Cyfarwyddwr A Thread Through Change (The Cockpit, Tête à Tête: The Opera Festival); The Love Doctor gan Moliere (RWCMD)