Cwrdd â WNO

Malcolm Martineau

Pianydd Albanaidd yw Malcolm Martineau. Astudiodd Gerddoriaeth yn St Catharine’s College, Cambridge, cyn astudio yn y Royal College of Music. Cydnabyddir yn rhyngwladol fel un o brif gyfeilyddion y DU, ac mae wedi perfformio yn y rhan fwyaf o brif leoliadau cyngherddau a gwyliau’r byd, ochr yn ochr â chantorion gorau’r byd. Fel artist recordio cynhyrchiol, mae disgyddiaeth Martineau o dros 100 o gryno ddisgiau wedi ennill gwobrau Grammy, Gramoffon, BBC Music Magazine a Diapason d’or. Mae’n cynnal dosbarthiadau meistr yn aml yn y conservatoires blaenllaw ac mae’n gydweithredwr rheolaidd mewn rhaglenni Artistiaid Ifanc fel Britten-Pears, Internationale Meistersinger Akadamie, Opera Merola, Samling a Salzburg. Mae Malcolm yn athro cyfeiliant piano yn y Royal Academy of Music ac yn Ddoethur er Anrhydedd ac yn Gymrawd Cyfeiliant Rhyngwladol yn y Royal Conservatoire of Scotland. Fe’i wnaed yn OBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2016 am ei wasanaeth i gerddoriaeth a chantorion ifanc.