Cwrdd â WNO
Maria Bjørnson
Ganwyd Maria Bjørnson (1949-2002) ym Mharis ac fe'i magwyd yn Lloegr. Astudiodd yn Ysgol Gelf Byam Shaw a'r Central School of Art and Design. Dechreuodd ei gyrfa yn y Citizens’ Theatre, Glasgow. Yn cael ei chydnabod gan ei chyfoedion fel dylunydd set a gwisgoedd mwyaf ysbrydoledig Prydain ar gyfer theatr, opera a bale, ymhlith ei gwobrau lu mae Medal Arian Prague Biennale am gylch Janáček WNO, dwy Wobr Tony, dwy Wobr Outer Critics Circle a dwy Wobr Drama Critics am The Phantom of the Opera.