Cwrdd â WNO

Marion Newman

Mae Marion Newman yn mezzo soprano enwog sy'n dod o dras y Genhedlaeth Cyntaf Kwagiulth a Stó:lō, tras Saesnig, Wyddelig ac Albanaidd, ac fe'i hystyrir yn un o gantorion mwyaf llwyddiannus Canada, gyda'i repertoire yn amrywio o Vivaldi i Vivier. Mae Marion wedi canu prif rannau operatig, yn cynnwys Carmen a Rosina, ac wedi perfformio gyda nifer o ensembles a cherddorfeydd gorau Gogledd America, yn cynnwys Vancouver Symphony, Rhode Island Symphony Orchestra, National Arts Centre Orchestra, New Orford String Quartet a Gryphon Trio.

Cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Dora am serennu yn y perfformiad cyntaf o Shanawdithit (Nolan/Burry) gyda Tapestry Opera Toronto, a dywedodd Ian Ritchie 'mae'n rhoi urddas a dewrder aruthrol i'w chymeriad'.